Nos Ystwyll

Llun c. 1850 gan Ainsworth o ddathliadau Nos Ystwyll

Nos Ystwyll yw'r 5ed neu'r 6ed o Ionawr - deuddeg diwrnod wedi dydd Nadolig - a diwedd yr ŵyl. Yn ôl traddodiad, dylid tynnu trimins neu addurniadau'r Nadolig i lawr erbyn y diwrnod hwn. Cysylltir hefyd nifer o draddodiadau eraill gyda'r diwrnod gan gynnwys Hela'r Dryw Bach a'r Fari Lwyd.[1]

Mae dyddiad Gŵyl y Nadolig yn ymwneud ag Alban Arthan a heuldro'r gaeaf (21ain neu 22ain Rhagfyr). Roedd traddodiad cyn-Gristnogol Gogledd Ewrop o ddathlu geni'r Haul ar 25 Rhagfyr yn wahanol i draddodiad gwledydd Môr y Canoldir a'r Dwyrain, a osodai heuldro'r gaeaf ar 6 Ionawr, sef Nos Ystwyll. Daeth y ddau ddyddiad i fod yn ddechrau a diwedd yr un dathliad. Mabwysiadodd eglwys y gorllewin "ddeuddeg diwrnod y Nadolig" a'u huchafbwynt ar Nos Ystwyll. Erbyn y 5g, credwyd mai dyma'r nos y cyrhaeddodd y Doethion Bethlehem. Pan fabwysiadodd y Gorllewin Galendr Gregori yn lle Calendr Iŵl daeth rhagor o ddryswch ynghylch diwedd y Nadolig, a gwrthododd yr eglwys ddwyreiniol y newid. Mae Nos Ystwyll, felly'n parhau i fod yn brif ddiwrnod dathlu'r Ymgnawdoliad mewn Eglwysi Uniongred.[2]

Ceir drama-gomedi o'r un enw gan William Shakespeare (Twelfth Night).

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 22 Rhagfyr 2014
  2. Gwefan yr Eglwys yng Nghymru;[dolen farw] adalwyd 22 Rhagfyr 2014

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search